Text Box: Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS
 Ysgrifennydd Gwladol Cymru
 Swyddfa Cymru

2 Rhagfyr 2016

Annwyl Alun

Bil Cymru

Yn ein cyfarfod ar 28 Tachwedd, ystyriwyd canlyniad y broses o graffu ar Fil Cymru yn ystod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Wrth wneud hynny, aethom ati i gymharu’r gwelliannau a gyflwynwyd i'r Bil â’r adroddiad y gwnaethom ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Hydref.

Nodwyd hefyd fod rhai o'r safbwyntiau a fynegwyd gennym yn ein hadroddiad wedi’u hadleisio gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Phwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi, yn ogystal â rhai o’r Arglwyddi yn y ddadl ar y Bil yn ystod y Cyfnod Pwyllgor.

Rydym yn cydnabod bod rhai agweddau ar y Bil wedi’u newid er gwell, ac y cafwyd ymrwymiadau i gyflwyno gwelliannau ychwanegol. Er ein bod yn croesawu hyn,  nid yw'n newid y problemau sylfaenol gyda’r Bil sydd, fel rydym wedi’u nodi, yn debygol o’i gwneud yn anodd i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud cyfreithiau cydlynol a hygyrch i bobl Cymru.

Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'r Bil yn parhau i fod yn gymhleth ac yn astrus. Ni fydd yn sicrhau’r setliad cadarn a pharhaol y mae pob un ohonom am ei weld. O ganlyniad, rydym yn poeni y bydd perygl cynyddol y caiff deddfwriaeth i Gymru a wneir gan Gynulliad Cymru ei chyfeirio at y Goruchaf Lys, gan arwain at gostau ac oedi diangen.

Yr hyn sydd wrth wraidd strategaeth arfaethedig Llywodraeth y DU yw setliad sy’n diogelu’r awdurdodaeth gyfreithiol unedig. Nid ydym wedi’n hargyhoeddi y gall hyn barhau fel yr egwyddor graidd y dylid seilio datganoli arni. Fel y mae, ni yw'r unig ddeddfwrfa yn y Gymanwlad heb ein hawdurdodaeth ein hunain. Mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi dweud bod y sefyllfa yn amlwg yn datblygu wrth i ragor o gyfreithiau i Gymru gael eu gwneud ac wrth i gyfreithiau i Loegr ychwanegu at y broses o ymwahanu.

Yr ydym wedi gweld y llythyr, dyddiedig 23 Tachwedd, a anfonodd Prif Weinidog Cymru atoch ynglŷn â sefydlu comisiwn statudol ar gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn cymeradwyo cynnwys y llythyr hwn yn llwyr. Os yw'r Bil am sicrhau cydsyniad, ymddengys y byddai’n  gyfaddawd rhesymol derbyn argymhelliad Prif Weinidog Cymru i sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder sy'n cynnwys y ddwy lywodraeth.

Felly, rydym yn credu y byddai newid y Bil fel yr awgrymodd y Prif Weinidog yn ffordd dderbyniol ymlaen ar fater o bwys sylweddol i'r setliad datganoli.

Fel sylw cyffredinol, gwelwn fod yr amserlen ar gyfer y Bil yn cael ei chyflymu o ganlyniad i faterion eraill. Nid ydym yn credu ei bod yn dderbyniol na'n briodol ymdrin yn y fath fodd â Bil ac iddo gymaint o arwyddocâd cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig.  

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Brif Weinidog Cymru.

Yn gywir

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.